Salmau 91:1-3-14-16 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Mae’r sawl sy’n byw yn llochesYr Hollalluog DduwYn dwedyd am yr Arglwydd,“Fy nghaer a’m noddfa yw;Mi ymddiriedaf ynddo”.Cans dy waredu a wnaO fagl gudd yr heliwr,Rhag dinistr a rhag pla.

11-13. Gorchmynna i’w angylionDy gadw yn dy ffyrdd.Rhag taro o’th droed wrth garreg,A rhag trallodion fyrdd,Fe’th godant ar eu dwylo;A throedio a wnei yn lewAr lewod ac ar nadroedd,Y sarff a chenau’r llew.

14-16. “Am iddo lynu wrthyf,Gwaredaf ef,” medd Duw.“Am iddo fy adnabod,Fe’i cadwaf tra bo byw.Dof ato mewn cyfyngder,Ac fe’i digonaf efAg einioes hir i flasuFy iachawdwriaeth gref.”

Salmau 91