1-2. Arglwydd, buost noddfa inniDrwy y cenedlaethau i gyd.Ers cyn geni y mynyddoeddA chyn esgor ar y byd,Ti sydd Dduw o dragwyddoldebHyd at dragwyddoldeb mud.
10-12. Hyd ein hoes yw saith deng mlynedd –Wyth deg, hwyrach – ond mae’u hydYn llawn blinder, ac ânt heibio.Pwy, fel ni, a ŵyr dy lid?Dysg ni, felly, i gyfri’n dyddiau,Inni fod yn ddoeth ein bryd.
13-15. Am ba hyd? O Arglwydd, dychwelAt dy bobl, a thrugarhau,A’n digoni ni â’th gariadNes cawn eto lawenhau.Rho in flwyddyn o lawenyddAm bob blwyddyn o’n tristáu.
16-17. Boed yn amlwg iawn i’th weisionDy weithredoedd mawr a’th fri.Arglwydd Dduw, disgynned arnomDy raslonrwydd hyfryd di.Llwydda waith ein dwylo inni,Llwydda waith ein dwylo ni.