1-3. Diolchaf, Arglwydd, am dy hollRyfeddodau.Try fy ngwrthwynebwyr ollYn eu holau;Ond â mi fe fuost ti’nGwbl uniawn.Eistedd ar dy orsedd fry’nFarnwr cyfiawn.
13-16. Cod fi, Dduw, o byrth y bedd,O’m helbulon,Fel y molaf di mewn heddYm mhyrth Seion.Maglwyd y rhai drwg yn nwydEu dichellion;Daliodd Duw hwy’n sownd yn rhwydEu cynllwynion.