Salmau 9:13-16-17-20 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

13-16. Cod fi, Dduw, o byrth y bedd,O’m helbulon,Fel y molaf di mewn heddYm mhyrth Seion.Maglwyd y rhai drwg yn nwydEu dichellion;Daliodd Duw hwy’n sownd yn rhwydEu cynllwynion.

17-20. Nid am byth y troir yn ôlGri’r anghenus,Ond dychweled i SheolY drygionus.Dyro d’arswyd, Dduw, yn chwimYn eu calon,Fel y gwelont nad ŷnt ddimOnd meidrolion.

Salmau 9