1-2. Datganaf byth dy gariad di,A’n cynnal ni drwy’r oesoedd,A’th faith ffyddlondeb, Arglwydd Dduw –Mor sicr yw â’r nefoedd.
10-12a. Fe ddrylliaist dy elynion casA Rahab fras â’th fysedd.Rhoist nef a daear yn eu lle,A chreaist dde a gogledd.
12b-14a. O Dabor ac o Hermon dawI’th nerthol law glodforedd.Barn a chyfiawnder yw’r ddau faenSy’n ffurfio sylfaen d’orsedd.
14b-15a. Rhagflaenir di, O Arglwydd da,Gan gariad a gwirionedd.Gwyn fyd y rhai a ddaw mewn parch,A’th gyfarch mewn gorfoledd.
15b-16. Gwyn fyd y rhai sydd yn mwynhauDy ffafrau di bob amser,Sy’n gorfoleddu yn d’enw di,Yn ffoli ar dy gyfiawnder.
17-18. Cans ti yw ein gogoniant ni,Fe beri i’n corn ddyrchafael.Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,Ein brenin yw Sanct Israel.Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,Rhoist iddynt weledigaeth:
19. “O blith y bobl coronais lanc,Gŵr ifanc grymus odiaeth.
20-22. Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,Â’m holew sanctaidd. IddoMi rof fy nerth a’m cryfder i,Ac ni chaiff neb ei goncro.