3-4. Dywedaist ti, “Cyfamod grasA wneuthum â’m gwas Dafydd:‘Mi sicrhaf dy had mewn heddA’th orsedd yn dragywydd’”.
17-18. Cans ti yw ein gogoniant ni,Fe beri i’n corn ddyrchafael.Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,Ein brenin yw Sanct Israel.Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,Rhoist iddynt weledigaeth:
19. “O blith y bobl coronais lanc,Gŵr ifanc grymus odiaeth.
20-22. Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,Â’m holew sanctaidd. IddoMi rof fy nerth a’m cryfder i,Ac ni chaiff neb ei goncro.
23-24. Nis trecha’r gelyn yn y gad.Fy nghariad a’m ffyddlondebFydd gydag ef. Yn f’enw byddYsblennydd ei ddisgleirdeb.
25-26. Dros yr afonydd oll a’r môrRhof iddo’r fuddugoliaeth;A dywed ef, ‘Fy nhad, ti ywFy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.
27-28. Yn brif etifedd mi a’i gwnaf,Yr uchaf o’r brenhinoedd.Deil fy nghyfamod yn ddi-wadA’m cariad yn oes oesoedd.
29-32. Fe bery’i orsedd byth; ei blant,Os llygrant f’ordeiniadau,Neu dorri fy ngorchmynion da,A gosbaf â fflangellau.
33-34. Ond deil fy nghariad, er pob gwall;Di-ball fydd fy ffyddlondeb.Ni wadaf ddim a draethais i,Na thorri fy nghytundeb.