1-3a. Arglwydd, doed fy ngweddi bruddAm dy gymorth nos a dyddAtat ti. Yr wyf yn llawnO helbulon dyrys iawn.
11-12. A foliennir di, O Dduw,Yn nhir Abadon? A ywYn wybyddus ddim o’th waithYn nhir ango’r caddug maith?
13-15a. Llefaf am dy gymorth di;Yn y bore clywi fi.Pam fy ngwrthod i, O Dduw?Rwyf ar drengi, a’m corff yn wyw.
15b-16. Fe ddioddefais ddychrynfeyddO’m hieuenctid; dy wasgfeyddSy’n fy nifa; drosof fiLlifodd dy ddigofaint di.
17-18. Mae’n f’amgylchu megis lli,Ac yn cau amdanaf fi;Rwyf heb gyfaill yn y byd,Cans dieithriaist hwy i gyd.