1-2. Tro dy glust ataf, Arglwydd, dan fy ffawd,Oherwydd rwy’n anghenus ac yn dlawd.Arbed fy mywyd; teyrngar ydwyf fi,Dy was, ac rwy’n ymddiried ynot ti.
3-5. Ti yw fy Nuw, O Arglwydd; trugarha,Cans gwaeddaf arnat beunydd. LlawenhaDy was, cans arnat y dibynnaf fi;Da a maddeugar, Arglwydd, ydwyt ti.
11b-13. Gad imi rodio yn dy wirionedd di;I ofni d’enw tro fy nghalon i.Clodforaf dy ffyddlondeb di-droi’n ôl.Gwaredaist ti fy mywyd o Sheol.
14-15. Cododd, O Dduw, yn f’erbyn wŷr trahaus;Bygythia criw didostur fi’n barhaus.Ond d’anian di, gras a thrugaredd yw;Llawn cariad a gwirionedd wyt, O Dduw.
16-17. Tro ataf, trugarha; rho nerth i’th was;Rho imi arwydd o’th ddaioni a’th ras;A chywilyddier pawb sy’n fy nghasáuAm i ti, Dduw, fy helpu a’m hiacháu.