1-3. O Arglwydd, buost wirDrugarog wrth dy dir.Adferaist ni, a maddau in ein camwedd,Dileu’n pechodau i gyd,A thynnu’n ôl dy lid,A throi i ffwrdd oddi wrth dy fawr ddicllonedd.
10-13. Fe fydd teyrngarwch DuwA’i gariad yn cyd-fyw,A’i heddwch a’i gyfiawnder yn cusanu;Ffyddlondeb ym mhob tref,Cyfiawnder lond y nef,A Duw’n rhoi popeth da, a’n tir yn glasu.