1. Saif ein Duw yng nghanolY cynulliad dwyfol;Barna ymhlith y duwiau.Gwrandewch ar ei eiriau.
2-3a. “Pa hyd y camfarnwch?Pa hyd y dangoswchFfafr at y drygionus?Trowch at y truenus.
3b-4. Rhoddwch eich dyfarniadO blaid yr amddifad,A gwaredu’r bregusO law’r rhai drygionus.
5. Ond am na ddeallwch,Cerddwch mewn tywyllwch,Ac am hyn, sylfeini’rDdaear a ysgydwir.
6-7. Duwiau ydych; etoByddwch oll yn syrthioMegis tywysogionMarw fel meidrolion.”