Salmau 81:1-5a-13-16 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5a. Canwch hyd eitha’ch dawn,A’ch telyn fwyn mewn hwyl,I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,A ninnau’n cadw gŵyl;A seiniwch utgorn llon,Cans dyma ddeddf ein Duw,A roes pan ddaeth â’r genedl honO wlad yr Aifft yn fyw.

13-16. O na bai Israel bythYn rhodio yn fy ffyrdd!Mi ddarostyngwn i yn sythEi gwrthwynebwyr fyrdd.Dôi’r gelyn yn un haigI blygu o’m blaen yn fud,Ond bwydwn di â mêl o’r graig.A’r gorau oll o’r ŷd.”

Salmau 81