40-48. Mor fynych y gwrthryfelasantYn erbyn yr Arglwydd eu Duw,Heb gofio mai ef a’u gwaredoddO’r Aifft, ac a’u cadwodd yn fyw.Troes Afon yr Aifft yn ffrwd waedlyd,Daeth pryfed a llyffaint yn bla;Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,Daeth haint ar eu preiddiau a’u da.
49-62. Fe drawodd eu cyntafanedig,Ond arwain ei bobl i’w gwlad;Troes allan genhedloedd o’u blaenau,Ond profodd wrthryfel a brad.Digiasant ef â’u huchelfannau,A’u delwau cerfiedig i gyd.Am hyn, ymadawodd â Seilo,A’u lladd yng nghynddaredd ei lid.
63-68a. Fe ysodd y tân eu gwŷr ifainc,Fe syrthiodd offeiriaid trwy’r cledd;Ni allai eu gweddwon alaru;Ac yna, fel milwr llawn medd,Fe gododd yr Arglwydd o’i drymgwsg,A tharo’i elynion bob un.Gwrthododd lwyth Effraim, a dewisLlwyth Jwda yn bobl iddo’i hun.
68b-72. Troes o babell Joseff, a gosodAr ben Mynydd Seion ei gaer,Sydd gyfuwch â’r nefoedd, a’i seiliau’nDragywydd, fel seiliau y ddaer.Dewisodd, yn was iddo, Ddafydd,A fu’n fugail defaid di-fraw,A’i roi i fugeilio’i bobl, Israel,A’u harwain yn fedrus â’i law.