1-2. Gwaeddais yn daer ar Dduw, ac fe’m clywodd.Ceisiais yr Arglwydd yn nydd fy mhoen –Estyn fy nwylo’n ddiflino ato.Nid oedd i’m henaid gysur na hoen.
11-13. Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd.O Dduw, meddyliaf am dy waith di.Sanctaidd dy ffordd, yn gwneud rhyfeddodau.Pa dduw mor fawr ag yw ein Duw ni?
14-16. Ti yw y Duw sy’n gwneud pethau rhyfedd.Cedwaist â’th fraich blant Israel yn fyw.Gwelodd y dyfroedd di, ac arswydo;Crynodd o’th flaen y dyfnder, O Dduw.Roedd y ffurfafen fry yn taranu,A fflachiodd saethau’r mellt ar bob llaw,
17-18. Ac fe ddisgynnodd dŵr o’r cymylau.Crynodd y ddaear gyfan mewn braw.
19-20. Fe aeth dy ffyrdd drwy’r môr a’i lifddyfroedd,Eithr ni welwyd dim oll o’th ôl.Ti a’n harweiniaist, trwy gyfarwyddydMoses ac Aron, fel praidd ar ddôl.