1-5. Pam bwrw dy ddefaid o’r neilltuYm mwg dy ddigofaint, O Dduw?Ymwêl eto â’r bobl a brynaist,A Seion, lle’r oeddit yn byw.Cyfeiria dy draed at dy demlSy’n awr yn adfeilion di-lun –D’elynion yn rhuo yn dy gysegrA chodi’u harwyddion eu hun.
12-17. Ond ti yw fy mrenin, iachawdwrY ddaear, a rhannwr y môr.Fe ddrylliaist saith pen Lefiathan,A’i roi i forfilod yn stôr.Agoraist ffynhonnau ac afonydd;Gosodaist derfynau y byd.Sefydlaist yr heulwen a’r lleuad,A threfnu’r tymhorau i gyd.