1-3. Dyro, O Dduw, dy ddeddfau i’r brenin.Barned dy bobl a’th dlodion yn iawn,Nes daw cyfiawnder inni o’r bryniau,Ac o’r mynyddoedd heddwch yn llawn.
10-11. Deued brenhinoedd Sheba a Seba,Tarsis a’r holl ynysoedd i gydÂ’u teyrnged iddo, ac ymostyngedGer ei fron holl genhedloedd y byd.
12-14. Canys tosturia wrth yr anghenus,Ac wrth y gwan, na all achub ei hun.Gwared y tlodion rhag trais a gormes,Cans fe’u hystyria’n werthfawr bob un.
15-16. Hir oes fo iddo. Bydded gweddïauDrosto, a bendith arno o hyd.Bydded i’w gnydau dyfu fel cedrwyddLebanon; bydded digon o ŷd.
17-19. Cyhyd â’r haul parhaed ei enw’nFendith cenhedloedd, ac ef yn ben.A bendigedig fyddo Duw Israel,A’r byd yn llawn o’i fawredd. Amen.