1-4. Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;Na foed c’wilydd arnaf fi.Achub fi yn dy gyfiawnder;Bydd yn amddiffynfa i mi.Gwared fi o law’r drygionus,O fy Nuw, fy nghraig wyt ti.
13-16. Gwaradwydder fy ngelynion.Molaf innau fwy a mwyDy weithredoedd grymus, Arglwydd,Er na wn eu nifer hwy –Moli i ddechrau dy gyfiawnderTuag ataf dan bob clwy.