Salmau 71:17-18-21-24 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

17-18. O’m hieuenctid, ti a’m dysgaist,Ac rwy’n moli o hyd dy waith.O fy Arglwydd, paid â’m gadaelPan wy’n hen a phenwyn chwaithNes caf draethu i’r to sy’n codiAm dy ryfeddodau maith.

19-20. Hyd y nef y mae dy gryfderA’th gyfiawnder di, O Dduw.Ti, a wnaeth im weld cyfyngder,A’m bywhei o’m gofid gwyw,Ac o’r dyfroedd dan y ddaearTi a’m dygi i fyny’n fyw.

21-24. Fe gynyddi fy anrhydedd,A moliannaf innau di.O Sanct Israel, ar y delynCanaf byth dy glod a’th fri.Traethaf beunydd dy gyfiawnderA’th ffyddlondeb mawr i mi.

Salmau 71