Fe hoga’r drygionus ei gleddyf,Mae’n plygu ei fwa yn dynn.Darpara ei arfau angheuol,A’r tân ar ei saethau ynghyn.Cenhedlodd ddrygioni a niwed,Yn awr mae yn esgor ar dwyll.Bu’n cloddio ei bydew a’i geibio,Yn awr mae yn syrthio drwy’r rhwyll.