Salmau 63:1-2-6-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. O Dduw, ti yw fy Nuw; amdanat ti,Fel sychdir cras am ddŵr, sychedaf fi,Dihoenaf am gael gweld d’ogoniant mawr,A welais yn y cysegr lawer awr.

3-5. Gwell yw na bywyd dy ffyddlondeb di.Am hynny, fe’th foliannaf. Codaf fiFy nwylo byth mewn gweddi i’th enw pêr.Caf fy nigoni ar fraster ac ar fêr.

6-8. Pan, ar fy ngwely y nos, dy gofio a wnaf –Fel y cysgodais dan d’adenydd braf –Fy enaid fydd yn glynu wrthyt ti;Bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal i.

Salmau 63