Salmau 60:6-7a-9-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

6-7a. Fe lefarodd y Goruchaf:“Af i fyny’n awr;Dyffryn Succoth a fesuraf,Rhannaf Sichem fawr.Mae Gilead, led a hyd,Manasse i gyd yn eiddo i mi.

7b-8. Effraim yw fy helm, a JwdaFy nheyrnwialen wir.Moab ydyw fy ymolchfa,A thros Edom dirTaflaf f’esgid. Caf foddhadYn erbyn gwlad Philistia i gyd”.

9-12. Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?Pwy, O Dduw, ond ti?Er it wrthod ein llu arfog,Rho dy help i ni.Gwnawn wrhydri gyda Duw,Cans ofer yw ymwared dyn.

Salmau 60