Salmau 59:1-4-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. O fy Nuw, amddiffyn fiRhag gwŷr cryfionSydd yn bygwth f’einioes iÂ’u cynllwynion.Heb fod pechod ynof fi,Maent yn chwennychFy nifetha, cyfod di,Tyrd ac edrych.

11-15. Paid â’u lladd, ond gwasgar hwy,A’u darostwng,Am fod geiriau’u genau’n fwyNag annheilwng.Am eu balchder mawr a’u briTyrd i’w cosbi,Fel y gwelo’r byd mai tiSy’n rheoli.

16-17. Canaf innau am dy nerthA’th uniondeb;Gorfoleddu a wnaf yng ngwerthDy ffyddlondeb.Buost amddiffynfa i miMewn cyfyngder.Canaf byth fy mawl i ti,Dduw, fy Nghryfder.

Salmau 59