1-4. Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd.Mae ’ngelynion i yn lluYn ymosod arnaf beunyddA’m gorthrymu ar bob tu.Cod fi i fyny yn nydd fy arswyd;Rwy’n ymddiried ynot ti.Molaf d’air, heb ofni rhagor.Beth all neb ei wneud i mi?
10-13. Hyn a wn, fod Duw o’m hochr.Molaf d’air, ac ynot tiYmddiriedaf byth heb ofni.Beth all neb ei wneud i mi?Talaf f’addunedau gydagEbyrth diolch iti, Dduw,Cans fe’m dygaist o byrth angauI oleuni tir y byw.