Salmau 49:1-3-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Clywch hyn, holl bobloedd byd,Y tlawd a’r rhai mewn moeth.Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,Myfyrdod calon ddoeth.

10-11. Bydd farw’r doeth a’r dwl.Rhennir eu heiddo i gyd;Mewn pwt o fedd y trigant byth,Er bod â thiroedd drud.

12-14a. Fe dderfydd pobl a’u rhwysgFel anifeiliaid ffôl.Â’r ynfyd a’u canlynwyr ollFel defaid i Sheol.

14b-15. Bugeilia angau hwy;Darfyddant yn Sheol;Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,A’m dwyn o’r bedd yn ôl.

16-17. Na chenfigenna wrthGyfoethog yn ei dref.Pan fo yn marw, nid â â dimO’i gyfoeth gydag ef.

Salmau 49