1-3. Clywch hyn, holl bobloedd byd,Y tlawd a’r rhai mewn moeth.Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,Myfyrdod calon ddoeth.
10-11. Bydd farw’r doeth a’r dwl.Rhennir eu heiddo i gyd;Mewn pwt o fedd y trigant byth,Er bod â thiroedd drud.
12-14a. Fe dderfydd pobl a’u rhwysgFel anifeiliaid ffôl.Â’r ynfyd a’u canlynwyr ollFel defaid i Sheol.
14b-15. Bugeilia angau hwy;Darfyddant yn Sheol;Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,A’m dwyn o’r bedd yn ôl.