1-3. Teilwng yw’r Arglwydd o fawl yn ei fynydd cyfannedd,Yn Seion, dinas ein Duw, ar lechweddau y Gogledd.Dinas yw honSy’n llawenhau’r ddaear gron,A Duw’n amddiffyn ei mawredd.
10-11. Fel mae dy enw, O Dduw, mae dy fawl yn ymestynHyd eitha’r ddaear. O’th law mae cyfiawnder yn disgyn.Boed lawen frydSeion a Jwda i gydAm iti gosbi y gelyn.