Salmau 46:1-2a-7-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2a. Duw yw ein noddfa ni a’n nerth.Ein cymorth yw o hyd.Ac felly nid arswydwn peSymudai yr holl fyd;

2b-3. Na phe bai’r holl fynyddoedd mawrYn cwympo i’r môr islaw;Na phe terfysgai’r dyfroedd nesI’r bryniau ffoi mewn braw.

4. Mae afon deg a’i ffrydiau hiYn llonni dinas Duw,Y ddinas sanctaidd, lle y mae’rGoruchaf Un yn byw.

5-6. Mae Duw’n ei chanol; diogel fydd;Yn fore helpa hi.Pan gwyd ei lais, mae gwledydd bydYn toddi o’i flaen yn lli.

7-8. Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.O dewch i weld yr hyn a wnaeth,Ei ddifrod ar y ddaer.

10-11. Dysgwch mai ef yw’r unig Dduw,Y dyrchafedig, claer.Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.

Salmau 46