1-2a. Gwyn fyd y sawl sy’n meddwl amY tlawd, cans fe fydd DuwYn gwared hwn rhag adfyd blinAc yn ei gadw’n fyw.
4. Dywedais innau, “Trugarha,O Arglwydd, wrthyf fi;Iachâ fi’n awr, oherwydd gwnIm bechu yn d’erbyn di”.
5. Dirmyga fy ngelynion fi,Gan ddweud mewn gwawd, “Pa brydY bydd ef farw, a dileuEi enw ef o’r byd?”
6. Pan ddelo un i’m gweld, mae’i sgwrsYn rhagrith oll i gyd;Hel clonc amdanaf yw ei nodI’w thaenu ar y stryd.
9. Mae hyd yn oed fy nghyfaill hoff,Fu’n bwyta wrth fy mwrdd,A mi’n ymddiried ynddo’n llwyr,Yn troi ei ben i ffwrdd.
10. O adfer fi yn awr, fy Nuw,O Arglwydd, trugarha,A lle y gwnaethant imi ddrwgMi dalaf innau dda.
11. Caf wybod imi gael dy ffafrPan na fydd llawenhauGan fy ngelynion ar fy nhraul,A thi yn fy mywhau.