1-2. Fe fûm yn disgwyl, disgwylWrth Dduw, ac yna daeth;Fe blygodd i lawr ataf,A gwrando ’nghri a wnaeth.Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,Allan o’r mwd a’r baw,A gwneud fy nghamau’n ddiogelAr graig ddiysgog draw.
11-12. Paid tithau, Dduw, ag atalTosturi rhagof fi,Ond cadwer fi’n dy gariadA’th fawr wirionedd di.Mae drygau dirifedi’nCau drosof megis llen,Camweddau yn fy nallu,A’u rhif fel gwallt fy mhen.
13-15. Bydd fodlon i’m gwaredu,O Arglwydd; brysia diI’m helpu. CywilyddiaBawb a wnâi ddrwg i mi;A phawb y mae ’nhrallodionYn llonni’u calon hwy,Syfrdana di’r rhai hynny rhyw waradwydd mwy.
16-17. Ond llawenhaed yn wastadBawb sy’n dy geisio di.Dyweded pawb a’th garo,“Mawr yw fy Arglwydd i”.Meddylia Duw amdanaf,Er ’mod i’n dlawd yn wir;Dduw ’nghymorth a’m gwaredydd,O paid ag oedi’n hir.