Salmau 40:1-2-13-15 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Fe fûm yn disgwyl, disgwylWrth Dduw, ac yna daeth;Fe blygodd i lawr ataf,A gwrando ’nghri a wnaeth.Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,Allan o’r mwd a’r baw,A gwneud fy nghamau’n ddiogelAr graig ddiysgog draw.

11-12. Paid tithau, Dduw, ag atalTosturi rhagof fi,Ond cadwer fi’n dy gariadA’th fawr wirionedd di.Mae drygau dirifedi’nCau drosof megis llen,Camweddau yn fy nallu,A’u rhif fel gwallt fy mhen.

13-15. Bydd fodlon i’m gwaredu,O Arglwydd; brysia diI’m helpu. CywilyddiaBawb a wnâi ddrwg i mi;A phawb y mae ’nhrallodionYn llonni’u calon hwy,Syfrdana di’r rhai hynny rhyw waradwydd mwy.

Salmau 40