1-2. Na chenfigenna wrth y drwg,Na gwgu ar ddihiryn,Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,Fel glesni gwych y gwanwyn.
7. Bydd amyneddgar yn dy fyw,Disgwyl am Dduw yn raslon;Ac na fydd ddicllon wrth y rhaiSy’n llwyddo â’u cynllwynion.
10-11. Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,A’i le fydd anghyfannedd,A’r gwylaidd yn meddiannu’r tirA’i ddal mewn gwir dangnefedd.
12-13. Cynllwynia’r drwg i daro’r da,Ac ysgyrnyga’i ddannedd;Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,Aflawen fydd ei ddiwedd.
14-15. Fe gais rhai drwg â’u bwa a’u cleddRoi diwedd ar rai bychain,Ond fe â’r saeth a’r cleddyf drwyEu calon hwy eu hunain.
16-17. Gwell yw’r ychydig sydd i’r doethNa chyfoeth y drygionus.Dileir y drwg, ond bydd Duw’n dalI gynnal y difeius.
18-19. Fe wylia’r Arglwydd dros y da,Parha eu hetifeddiaeth;A phan fydd newyn yn y tirBydd ganddynt wir gynhaliaeth.
20. Ond fel coed tân mewn fflamau cochGelynion croch yr ArglwyddA dderfydd; cilia y rhai drwgBob un fel mwg yn ebrwydd.