15-17. Ond roeddent hwy yn llawenY dydd y cwympais i:Poenydwyr nas adwaenwnYn fy enllibio’n ffri.Pan gloffais i, fe’m gwawdient,(O Arglwydd, am ba hyd?)Tyrd, gwared rhag anffyddwyrFy unig fywyd drud.
18-20. Diolchaf it bryd hynnyGerbron y dyrfa fawr;Ond na foed i’m gelynionGael llawenhau yn awr.Ni soniant ddim am heddwch,Dim ond cynllwynio bradYn erbyn pobl gyfiawn,Preswylwyr distaw’r wlad.
21-24. Siaradant yn fy erbynGan ddweud, “Aha, aha,Fe welsom ni â’n llygaid ...!”O Arglwydd, na phellha!Rho ddedfryd ar fy achosYn ôl d’uniondeb di;Na ro lawenydd iddyntYn fy anghysur i.
25-27a. Ac na foed iddynt frolio,“Fe’i llyncwyd gennym ni”.Doed gwarth i bawb sy’n llawenOblegid f’adfyd i;Ond boed i’r rhai sydd eisiauCael gweld fy nghyfiawnhauGael gorfoleddu o’m plegidA chanu a llawenhau.
27b-28. Boed iddynt ddweud yn wastad,“Mawr yw yr Arglwydd DduwSydd yn dymuno llwyddiantEi was, a’i gadw’n fyw”.Ac yna, Dduw trugarog,Fy nhafod i a fyddYn datgan dy gyfiawnderA’th foli ar hyd y dydd.