Salmau 30:1-3-4-5 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Dyrchafaf di, O Arglwydd,Am iti f’achub i.Gwrthodaist i’m gelynionFy ngwneud yn destun sbri.O Arglwydd, gwaeddais arnat,A daethost i’m hiacháu;Fe’m dygaist i i fynyO Sheol, a’m bywhau.

4-5. Chwychwi ffyddloniaid, rhoddwchI’r Arglwydd fawl ar gân,A rhoddwch ddiolch beunyddI’w enw sanctaidd, glân.Am ennyd y mae’i ddicter,Am oes ei ffafrau mawr;A thry wylofain heno’nLlawenydd pan ddaw’r wawr.

10-12. A all y llwch byth foliDy lân wirionedd di?O Arglwydd, bydd drugarog,A chynorthwya fi.”Fe droist sachliain f’adfydYn wisg i ddawnsio’n llon.Hyd byth, fy Nuw, fe’th folafAm y drugaredd hon.

Salmau 30