1-3. Arglwydd, rwy’n dyrchafuF’enaid atat ti.Paid â chywilyddioF’ymddiriedaeth i.Nid i’r rhai sy â’u gobaithYnot ti, O Dad,Y daw byth gywilydd,Ond i rai llawn brad.
10-11. Cariad a gwirioneddYw ei lwybrau i gydI’r rhai sydd yn cadw’iGyfraith ef o hyd.Er mwyn d’enw, Arglwydd,Maddau di yn awrImi fy holl gamwedd,Sydd yn gamwedd mawr.
12-15. Dysgi i’r sawl a’th ofnaRodio llwybrau gwir.Caiff ei blant ef hefydEtifeddu’r tir.Rhoddi dy gyfeillachIddo i’w mwynhau.Trof yn wastad atat:Ti sy’n fy rhyddhau.