15b-17a. Fe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵnO’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.
17b-19. Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysgFy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;O brysia, rho im gymorth nerth dy law.
20-22. Gwared fy unig fywyd rhag y cledd,Rhag cyrn y teirw, a rhag safn y bedd.Ac fe gyhoeddaf d’enw i’m brodyr i,Ac yn y gynulleidfa molaf di.
23-24. Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd Dduw.Blant Israel, parchwch ef; trugarog yw.Heb guddio’i wyneb, clywodd lef y sawlY sarnodd y gorthrymwr ar ei hawl.
25-26. Fe’i molaf yn y gynulleidfa gref.Cadwaf fy llw yng ngŵydd ei bobl ef.Digonir yr anghenus, a bydd bywAm byth galonnau’r rhai sy’n moli Duw.