Salmau 22:12-14a-29-31 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

12-14a. Amdanaf mae gwŷr cryfion wedi cau,Fel teirw Basan. Llewod ŷnt mewn ffauYn rheibio a rhuo, ac y mae eu stŵrYn gwasgu’r nerth o’m corff, fel tywallt dŵr.

14b-15a. Datododd fy holl esgyrn, ac fe lwyrDoddodd fy nghalon, fel pe bai yn gwyrMae ’ngheg yn sych fel cragen ar y stryd,A glŷn fy nhafod yn fy ngenau mud.

15b-17a. Fe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵnO’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.

17b-19. Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysgFy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;O brysia, rho im gymorth nerth dy law.

20-22. Gwared fy unig fywyd rhag y cledd,Rhag cyrn y teirw, a rhag safn y bedd.Ac fe gyhoeddaf d’enw i’m brodyr i,Ac yn y gynulleidfa molaf di.

23-24. Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd Dduw.Blant Israel, parchwch ef; trugarog yw.Heb guddio’i wyneb, clywodd lef y sawlY sarnodd y gorthrymwr ar ei hawl.

25-26. Fe’i molaf yn y gynulleidfa gref.Cadwaf fy llw yng ngŵydd ei bobl ef.Digonir yr anghenus, a bydd bywAm byth galonnau’r rhai sy’n moli Duw.

27-28. Daw’n ôl at Dduw holl gyrrau eitha’r byd,Ymgryma’r holl genhedloedd iddo ynghyd,Cans iddo y perthyn y frenhiniaeth fawr,Ac ef sy’n llywodraethu teulu’r llawr.

29-31. Sut gall y meirw’i foli yn Sheol?Ond byddaf fi fyw iddo, a’m plant ar f’ôl.Sonnir am Dduw wrth genedlaethau i ddod.Bydd pobl nas ganwyd eto’n traethu’i glod.

Salmau 22