1-3. O Arglwydd, llawenychaY brenin yn dy nerth;Mae’n gorfoleddu oblegidD’achubiaeth fawr ei gwerth.Rhoist iddo heb wrthodiadEi bob deisyfiad taer.Doist ato â bendithion;Rhoist iddo goron aur.
11-13. Dinistri eu hepil hefydO blith plant dynol ryw.Bwriadent ddrwg i’th erbyn,Heb lwyddo. Ffônt rhag Dduw.Aneli at eu hwynebauDy fwa a’th saethau llym.Cod, Arglwydd, yn dy gryfder!Cawn ganu am dy rym!