1-3. Caraf di, Arglwydd, fy nghryfder, fy nghraig a’m gwaredydd,Duw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nghaer, fy achubydd.Gwaeddaf ar Dduw,Cans fy ngwaredwr i ywRhag fy ngelynion aflonydd.
4-6. Pan oedd marwolaeth a distryw yn clymu amdanaf,Gwaeddais yn daer yn fy ngofid ar Dduw y Goruchaf.Clywodd fy llefO’i deml lân yn y nef.Clywodd fy ngwaedd a daeth ataf.
11-14. Taenodd gymylau yn orchudd a chaddug yn guddfan;Cenllysg a thân o’r disgleirdeb o’i flaen a ddaeth allan.Daeth ei lais efMegis taranau o’r nef,A’i fellt fel saethau yn hedfan.
15-17. Gwelwyd gwaelodion y môr, a dinoethwyd holl seiliau’rByd gan dy gerydd di, Arglwydd, a chwythiad dy ffroenau.Tynnodd ef fiO ddyfroedd cryfion eu lli.Gwaredodd fi o’m holl frwydrau.
18-19. Daethant i’m herbyn yn lluoedd yn nydd fy nghaledi,Ond fe fu’r Arglwydd fy Nuw yn gynhaliaeth driw imi.Dug fi o’r tânI le agored a glân,Am ei fod ef yn fy hoffi.
20-24. Talodd yr Arglwydd i mi yn ôl glendid fy nwylo,Am imi gadw ei lwybrau, heb droi oddi wrtho.Cedwais o hydEi holl gyfreithiau i gyd:Cedwais fy hun rhag tramgwyddo.
25-27. Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.Yr wyt yn haelAt y rhai gwylaidd a gwael,Ac yn darostwng y beilchion.
28-30. Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.Tarian o ddur,Profwyd ei air ef yn bur.Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.
31-33. Pwy ond ein Duw ni sydd graig? Pwy sydd Dduw ond yr Arglwydd?Rhydd imi nerth, ac fe’m tywys ar lwybrau perffeithrwydd.Trwy’i rym fe wnaedFel carnau ewig fy nhraed:Troediaf fynyddoedd mewn sicrwydd.
34-37. Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.Ni lithraf byth,Cans mae fy llwybrau mor syth.Daliaf elynion a’u difa.
38-41. O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.Rhoddaist fy nhroedAr eu gwegilau’n ddi-oed,Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.
42-45. Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.Mae estron rai’nPlygu o’m blaen dan eu bai;Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.