1-4. Rwyf yn llefain am gyfiawnder;Dyro sylw i’m llef, a chlyw.Gwrando gri gwefusau didwyll.Doed fy marn oddi wrth fy Nuw.Gwyliaist fi drwy’r nos heb ganfodDim drygioni ynof fi.Ni throseddais gyda’m genau,Ond fe gedwais d’eiriau di.
13-15. Cyfod, Arglwydd, yn eu herbyn;Bwrw hwy i lawr i’r baw.Gwared fi rhag y drygionus,A dinistria hwy â’th law.Cosba hwy, a chadw weddillI’w babanod, wŷr di-hedd.Ond caf fi, pan gyfiawnheir fi,Fy nigoni o weld dy wedd.