Salmau 149:1-2-6-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. O molwch yr Arglwydd! Boed newydd eich cânYmhlith cynulleidfa’r ffyddloniaid yn dân.Boed Israel yn llon yn ei chrëwr a’i Duw,Clodfored plant Seion eu brenin a’u llyw.

3-5. Â thympan a thelyn, ar ddawns ysgafn droedMoliannwch! Mae’n Duw’n caru’i bobl erioed.Mae’n gwared y gwylaidd. O bydded i’r saintRoi mawl mewn gogoniant gan gymaint eu braint.

6-8. Molianned eu genau ein Duw yn ddi-daw.Boed cleddyf daufiniog yn noeth yn eu llawI ddial ar wledydd a phobloedd y byd,A rhwymo â chadwynau’r brenhinoedd i gyd.

Salmau 149