Salmau 148:1-4-5-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r nefoedd!Molwch, chwi’i holl engyl ef;Haul a lloer a’r sêr bob un,Lluoedd nef, a’r nef ei hun,A’r holl ddyfroedd sydd fry uwch y nef.

5-6. Boed iddynt foli enw yr Arglwydd.Boed iddynt foli’n Duw ni.Ar ei air y crewyd hwy,Ac fe’u gwnaeth yn sicr byth mwy,A rhoes ddeddf iddynt nas torrir hi.

13-14. Boed iddynt foli enw yr Arglwydd,Enw heb ail iddo yw.Mae uwchlaw y byd a’r nef,Moliant Israel ydyw ef.Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw!

Salmau 148