1-2. Bendigedig fyddoDuw, fy nghraig a’m caer;Ef sy’n dysgu ’nwyloI ryfela’n daer.Ffrind, gwaredydd, lloches,Tarian gadarn yw,A darostwng pobloeddDanaf a wna Duw.
12-13. Bydded gryf ein meibionFel planhigion gardd;Fel pileri palasBoed ein merched hardd.Boed ein hysguboriauOll yn llawn o ŷd;Bydded defaid filoeddYn ein caeau i gyd.
14-15. Boed ein gwartheg cyfloOll yn drymion iawn.Na foed gwaedd o ddychrynAr ein strydoedd llawn.Gwyn eu byd y boblSydd fel hyn byth mwy –Y bobl y mae’r ArglwyddYn Dduw iddynt hwy.