Salmau 143:1-2-11b-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Arglwydd, clyw fy ngweddi, gwrando fy neisyfiad.Yn dy fawr ffyddlondeb a’th gyfiawnder, ateb fi.Paid â rhoi dy was, O Arglwydd, dan gondemniad:Nid oes neb byw yn gyfiawn o’th flaen di.

10-11a. Dysg im wneuthur dy ewyllys di a’th fwriad,Canys ti, O Arglwydd, ti yn unig, yw fy Nuw.Boed i’th ysbryd da fy arwain i dir gwastad;Er mwyn dy enw cadw fi yn fyw.

11b-12. Yn dy fawr gyfiawnder dwg fi o’m hanallu,A’m gelynion, yn dy gariad mawr, distawa di.A dinistria’r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,Canys dy was, O Arglwydd, ydwyf fi.

Salmau 143