4. Tremiais i’r dde, a gweldNad oes un cyfaill im;Nid oes dihangfa imi chwaith,Na neb yn malio dim.
5. Ond gwaeddais arnat ti;Dywedais, “O fy Nuw,Ti, Arglwydd, yw fy noddfa iA’m rhan yn nhir y byw”.
6. Bwriwyd fi’n isel iawn;O gwrando ar fy nghriA’m gwared rhag f’erlidwyr oll,Cans cryfach ŷnt na mi.
7. Dwg fi o’m carchar caeth,Fel y clodforaf di.Pan gaf dy ffafr dylifo a wnaY cyfiawn ataf fi.