1-2. Gwaeddaf yn daer ar Dduw,Ymbiliaf arno ef;Arllwysaf fy holl gwyn o’i flaen,A dof i’w ŵydd â’m llef.
3. Fe wyddost ti fy llwybrPan balla f’ysbryd i.Maent wedi cuddio magl arY llwybr a gerddaf fi.
4. Tremiais i’r dde, a gweldNad oes un cyfaill im;Nid oes dihangfa imi chwaith,Na neb yn malio dim.