1-4a. O Arglwydd, gwaeddaf, brysia ataf fi;Gwrando fy llef pan alwaf arnat ti.Bydded fy ngweddi’n arogldarth o’th flaen,Ac offrwm hwyrol fo fy nwylo ar daen.Dros ddrws fy ngenau, Arglwydd, gwylia di;Rhag pob gweithredoedd drwg, O cadw fi.
4b-5. Mae rhai sy’n gwneud drygioni fwy a mwy;Na ad im fwyta o’u danteithion hwy.Cerydded y rhai cyfiawn fi heb sen,Ond nad eneinied olew’r drwg fy mhen;Oherwydd mae fy ngweddi i o hydYn llef yn erbyn holl ddrygioni’r byd.