1. Fe ddywedodd y rhai ynfyd,“Nid oes Duw”.Ffiaidd ywEu gweithredoedd bawlyd.
2. Gwyrodd Duw o’i nef i chwilioA oedd unAr ddi-hunA oedd yn ei geisio.
3. Ond mae pawb yn cyfeiliorni.Nid oes neb,Nac oes, neb,Sydd yn gwneud daioni.
4. Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.Oni byddCosb ryw ddyddAr y rhai drygionus?
5. A’r pryd hynny fe fydd gyflawnMaint eu braw,Cans fe ddaw’rArglwydd at y cyfiawn.
6. Er i chwi ddirmygu cyngorY rhai gwael,Y Duw haelYw eu noddfa a’u hangor.