1-4. Molwch yr Arglwydd! O molwch ef, weision yr Arglwydd,Chwi sydd yn sefyll yn nhŷ a chynteddoedd yr Arglwydd.Molwch ein Duw!Jacob ac Israél ywTrysor arbennig yr Arglwydd.
11-12. Lladd Sihon, teyrn yr Amoriaid, ac Og, brenin Basan;Yna dinistrio holl dywysogaethau gwlad Canaan.Rhoes eu tir hwyI bobl Israel byth mwyYn etifeddiaeth a chyfran.
13-14. Y mae dy enw, O Arglwydd, am byth, a’th enwogrwyddO un genhedlaeth i’r llall, cans mi wn y daw’r ArglwyddI gyfiawnhauEi bobl, a thrugarhauWrth ei holl weision yn ebrwydd.
15-18. Arian ac aur ydyw delwau’r cenhedloedd – gwaith dynion.Mae ganddynt lygaid a genau, ond dall ŷnt a mudion:Clustiau heb glyw,Ffroenau heb anadl fyw.Bydd felly eu crëwyr yn union.
19-21. Israel ac Aaron a Lefi, bendithiwch yr Arglwydd;Chwithau, bob un sy’n ei ofni, bendithiwch yr Arglwydd;Seion achlânA holl Jerwsalem lân,Molwch, bendithiwch yr Arglwydd.