1-2. Cofia am Ddafydd, Arglwydd tirion;Cofia am ei holl dreialon;Cofia am ei lw angerddolI Un Grymus Jacob dduwiol:
10-11a. Er mwyn Dafydd, dy was enwog,Paid â gwrthod dy eneiniog.Gynt i’r brenin Dafydd tyngaistSicr adduned, ac fe’i cedwaist:
11b-12. “Mi osodaf byth ar d’orseddUn o ffrwyth dy gorff i eistedd;Ac, os ceidw fy nghyfreithiau,Caiff ei fab ei ddilyn yntau”.
13-14. Canys Seion a ddewisoddDuw yn drigfan, a dywedodd:“Hon am byth fydd fy ngorffwysfa;Mi ddewisais drigo yma.
15-16. Â bwyd ddigon fe’i bendithiaf;Ei holl dlodion a ddigonaf.Rhof gyfiawnder i’w hoffeiriaid,Gorfoledda ei ffyddloniaid.
17-18. Llinach Dafydd fydd sefydlog;Byth ni ddiffydd lamp f’eneiniog.Daw cywilydd i’w elynion;Gwisga yntau ddisglair goron”.