3. Dy wraig fydd ar dy aelwyd lawnMegis gwinwydden ffrwythlon iawn,A’th blant o gylch dy fwrdd, yn wir,Fel blagur olewydden ir.
4-5a. Bendithia Duw â’i ddwylaw grefY sawl sydd yn ei ofni ef.Bendithied dithau’n hael fel hynO’i deml lân ar Seion fryn.
5b-6. Fel y cei weld drwy d’oes bob awrJerwsalem yn llwyddo’n fawr,A gweld holl blant dy blant i gyd.Boed hedd ar Israel o hyd!