3-4. Er bod teyrnwialen y drwg yn ymestynDros dir y cyfiawn, nid hir y parha,Rhag troi o’r uniawn i wneud anghyfiawnder.Gwna di ddaioni, O Dduw, i’r rhai da.
5. Ond am y rhai sydd yn gwyro i ffyrdd troellog,Bydded i’r Arglwydd eu difa i gyd,Ynghyd â phawb o’r gwneuthurwyr drygioni.Bydded tangnefedd ar Israel o hyd!